Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyfwy oleu y dydd. Cipir yr ysgafnblu gan y gwyntoedd, chwyrnellir a chwyfir hwy'n blith drafflith drwy eu gilydd. Rhedant hyd y llawr, ehedant drwy'r awyr i gysgod rhych, ac agen, a chongl.

Welwch chwi'r luchfa yma sy dan ein ffenestr? Plethir, a nyddir, a llathrir hi i'r lluniau a'r ffurfiau rhyfeddaf-mwyaf fantasticgan ddwylaw hyfedr, a bysedd hyblyg y gwynt. Mae pob cyrf, a dolen, a phleth; mae pob tro, a sider, a fill yn anarluniadwy brydferth. Saif yr ysgol ar ein cyfer. Ymylir hiniogau ei drws, a physt ei ffenestri, a rhigolau ei tho, â ffunenau gwynnach na chlôg y carlwm. Mae'r mur sy o'n blaen fel marmor Carrara; a thal fonau y coed fel colofnau grisial. Ffinir y cloddiau a'r gwrychoedd gan luchfeydd hirion, cyfochrog. Un ffunud ynt a gwenyg y môr fai'n codi'n frigwyn ac yn torri'n ewyn ar fin y feisdon.

Mae'n ysgafnu ac yn goleuo; cwyd y niwl a phaid a bwrw. Rhuthra'r haul drwy'r cwmwl, a dawnsia gwreichion ar frig pob lluchfa. Glywch chwi'r adar? Hed bronfraith-y prima donna-i frig yr onnen a llafar-gana unwaith eto Shir-yp!" "Shir-yp!!" "Mae'r gwanwyn yn dod!" "Mae'r gwanwyn yn dod!! ac ymdorra gwên dros wyneb Natur.