Tudalen:Tro i'r De.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tua phythefnos o rybudd, ac ni chefais bythefnos mor anedwydd erioed. Bum hyd lan y mor am ddiwrnodau, yn disgwyl drychfeddyliau: ond ni welais, mwy na'r gwas hwnnw oedd heb daflu'r cleddyf i'r dwr, ond y tonnau'n ymlid eu gilydd tua'r lan. Eis i wrando William Evans yn pregethu ar waith yr Ysgol Sul, oddiar y geiriau hynny.—"Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, a thi a'i cai ar ol llawer o ddyddiau." Wedi cymharu fy mhregeth fy hun ar bregeth honno, tybiwn mai hyfdra ynfyd ynnof fi oedd mynd i bulpud. Darllennais Ad Clerum Dr. Parker, a llanwodd hwnnw gwpan fy anedwyddwch i'r ymylon,—condemniodd bron bob peth oedd gennyf yn fy mhregethau.

Ond daeth y prydnawn Sadwrn o'r diwedd. Chwi nad ydych yn bregethwyr, diolchwch na roddwyd arnoch yr anghenraid o wynebu cynulleidfa ar ddydd gorffwys y greadigaeth. Cychwynnais gydag efrydydd arall o Aberystwyth am hanner awr wedi dau. Yr oeddwn yn diolch fod y tren yn mynd mor araf er mwyn i mi gael mwynhau y golygfeydd ar fy nhaith gyntaf i'r Deheudir. Cododd y tai to gwellt a'r teisi mawn hiraeth melus arnaf am ucheldir sir Feirionnydd, a gwelwn ein bod yn mynd ymhellach o wlad y llechi. Tybiwn fod golwg dlawd ac oer ar y rhan gyntaf o'n taith.—Cors Fochno ar un llaw, a mynyddoedd eang ar llall. Ond toc daethom i wlad frasach, a phob peth yn edrych yn hyfryd addfed ynddi. Peth rhyfedd i mi oedd y ty pridd cyntaf welsom. O bridd y gwneir y tai,—fel y bobl.—ac y mae golwg hyfryd arnynt an wedi eu gwyngalchu. A chyn hir cawsom gipolwg ar flaen dyffryn swynol Aeron.