Tudalen:Tro i'r De.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI. LLANGEITHO

Cefais, yn hynod anisgwyliadwy, y fraint o fynd i Langeitho, i bregethu i gapel Daniel Rowland.

Nid oeddwn erioed wedi bod mor bell oddicartref, ac nid oeddwn wedi pregethu ond ychydig iawn. Yr oedd y syniad am esgyn i'r pulpud yn fy llethu bob amser, ni chawn hun i'm hamrantau y noson cynt na'r noson wedi pregethu. Tybiwn fod y bobl yn crymu eu pennau gan gywilydd drosof, wrth araf ddirwyn o'r capel ar nos Sul. Tybiwn y byddai'r blodau, fyddai weithiau yn ffenestr fy ystafell wely yn y cartrefi cysurus y derbynnid fi iddynt, yn troi eu gwynebau tua'r ffenestr oddiwrthyf. Ac eto. —eiddilyn gwan, gyda phob discord wedi ei gasglu i'm llais—tybiwn fod anghenraid arnaf i bregethu'r efengyl. A phan ddaethum i Aberystwyth, anfonid fi ambell dro i bregethu yn lle pregethwyr dorrai eu cyhoeddiadau yn ardaloedd mwyaf anghysbell Ceredigion. A rhywfodd, oherwydd marw neu ryw achos arall, yr oedd Sul gwag yn Llangeitho.

Pan ddaeth y gennad ataf, penderfynais yn y fan nad awn. Ond wedyn,—daeth meddyliau hunanol. Cawn ysgrifennu adref i ddweyd fy mod yn pregethu yn Llangeitho y Sul. Gwyddwn y byddai son am Langeitho ar yr aelwyd gartref,—am ei phregethwyr ac am ei sasiynau,—a llawer gwell fuasai gennyf fod yn llawenydd yr aelwyd ddistadl honno na mentro i le mor enwog i bregethu. Yr oeddwn yn cael