Tudalen:Tro i'r De.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gerald archddiacon yn pregethu, a'r tywysog Rhys a'i ddau fab ymysg y dyria o wrandawyr. Bu arddeliad mawr ar y pregethu; ac ar y diwedd daeth gŵr ieuanc ymlaen i gymeryd y groes. Yr oedd ei fam yno yn ei weled yn myned ymlaen. Ei hunig fab oedd, a'i hunig obaith, ac yr oedd hi'n hen iawn. Tybiai'r pregethwyr fod ei geiriau wedi eu hysbrydoli.— "O Iesu anwyl," meddai, gan syllu'n ddyfal ar ei mab, yr wyf yn diolch o'm calon i ti am adael i mi ymddwyn y fath fab, mab yr wyt ti'n edrych arno fel un cymwys i'th wasanaethu."

Ar ol hwn, daeth gwr arall, gŵr gwraig. Ond cydiodd ei wraig ynddo gerfydd ei wisg, a rhwystrodd ef rhag myned ymlaen. Y nos honno clywodd y wraig lais dychrynllyd yn dweyd, Cymeraist fy ngwas oddiarnaf, am hynny cymerir oddiarnat y peth a geri fwyaf." Erbyn y bore yr oedd ei phlentyn wedi marw. Cymerodd y gwr y groes, a hi ei hun a wniodd yr arwydd ar ei lawes.

A dacw Barc y Capel, lle cododd y bobl allor i gofio am yr odfa honno. Ni raid i ni fynd yn ol i'r ddeuddegfed ganrif i chwilio am hyawdledd yn nhref Aberteifi; clywodd rhai sydd eto'n fyw hyawdledd yn ei sasiynau na chlywant ei debyg, feallai, byth mwy. Ond rhaid i mi brysuro ymlaen. Yr ydym am ddechreu ym mynachlog Llandudoch, wrth enau'r afon Dyfi. a dilyn y dyffryn i fyny i fynachlog Ystrad Fflur.