Tudalen:Tro i'r De.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Owen Gwynedd a'r Saeson, pan enillodd y Cymry fuddugoliaeth lwyr. Cofiodd daear y frwydr am y fuddugoliaeth honno, medd traddodiad; os gadewid arf neu arfwisg ar y maes yn y nos, byddai wedi ei falurio erbyn y bore. Ar y bont hon y bu Gerald Gymro'n pregethu Rhyfeloedd y Groes. Yn y castell acwy bu Eisteddfod glodus Rhys ab Gruffydd yn 1176, pan ddaeth holl feirdd Cymru yma. Wedi hyn bu Llywelyn yn ymosod ar y castell ac yn gyrru'r Saeson o'r dref; ac wedi cwymp ein Llywelyn olaf bu Edward, gorchfygwr Cymru, yn byw am fis yn yr hen gastell. Yn ystod y Rhyfel Mawr bu magnelau'r Senedd yn tanio ar y muriau hyn, hyd nes torrwyd adwy ynddo, ac y rhuthrodd y milwyr i mewn. Y mae'n ddigon tawel heno, nid yw'n ddychryn i'r wlad mwyach, y mae ei dyrau wedi syrthio a'i ddaeargelloedd wedi eu troi'n selerydd.

Bore drannoeth cawsom gwmni gŵr ieuanc deallus a wyddai am danom, ac aethom yn ei gwmni i weled y wlad. Pan ddaethom at y bont, nis gallwn lai na chofio am olygfa ryfedd welwyd yma yn 1188. Yr oedd archesgob Caergaint yn dod drwy Gymru i bregethu, a Gerald Gymro gydag ef. Ei neges oedd darbwyllo rhai i fynd i Ryfeloedd y Groes, i ymladd â'r anwir am fedd yr Iesu. Daeth y pregethwyr i Aberteifi, ac yno daeth Rhys ab Gruffydd, un o'r tywysogion hynotaf yn hanes Cymru, i'w cyfarfod. Wrth dalcen y bont hon y cyfarfyddodd y pregethwyr a'r tywysog. Deuent hwy o fynachlog Llandudoch, lle yr arhosasent y nos cynt; daeth yntau o'r castell.

Hawdd dychmygu am yr odfa gynhaliwyd ar y glaswellt acw. Wele Faldwin archesgob a