Tudalen:Tro i'r De.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweld arch Noa yn disgyn oddiar ben y cerbyd ar y llu o blant oedd o gwmpas y cerbyd. Carlamodd y ceffylau heibio hen le'r castell, ac arhosodd ym mhrif heol Aberteifi o flaen y Black Lion. Cawsom le cysurus i aros yn yr hen westy hwn. Ystafelloedd duon trymaidd sydd ynddo, yn gwneyd i ni feddwl am ustusiaid a chinio rhent.

Yr oedd wedi nosi pan aethom allan i weld y dre, ac yr oedd lleuad newydd yn taflu goleuni gwannaidd ar Aberteifi. Ystryd hir hyd gefnen a welsom, a phob modfedd o dir ar ochr yr afon wedi ei lenwi. Yr oedd golwg ddieithriol iawn ar y toau gwynion, fel pe buasai newydd fwrw eira arnynt. Anadlai awel dyner o'r môr, ac arogl gwair cynhaeafus ar ei hedyn, wrth i ni grwydro yn ol a blaen ymysg y bechgyn a'r genethod oedd yn ymddifyrru yng nghwmni eu gilydd ar noson mor hyfryd. Cymraeg llithrig ryfeddol siaradent i gyd. Ac eto hysbyswyd ni mai Saesneg yw tri phapur newydd tref Aberteifi.

Yn y pen agosaf i'r orsaf, wrth dalcen y bont, gwelsom dŵr yr hen gastell. Buom yn edrych arno, gan gofio am yr ymladd enbyd fu yn y pant odditanom o dro i dro. Yr oedd yn bwysig iawn, gan ei fod yn gwylio'r ffordd i Geredigion a rhan ddeheuol y wlad y methodd y Normaniaid ei gorchfygu. Ynddo, yn 1107, y bu Cadwgan ab Bleddyn yn gwledda tywysogion ac yn noddi beirdd ar ddechreu deffroad llenyddol mawr y ddeuddegfed ganrif. Yma, medd rhai, y gwelodd Owen brydferthwch alaethus Nest,— ac o hynny daeth gofid i'r hen Gadwgan ac i Gymru i gyd. Ar fryn gerllaw, y Crug Mawr. y bu'r frwydr fawr rhwng Gruffydd ab Rhys ac