Tudalen:Tro i'r De.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y pellter; ond ni chefais olwg agos arno, oherwydd daeth ofn mawr arnaf, a rhedais nerth par o glocs, at a tangent i linell gyrfa'r tren. Tybiasom ein bod yn agoshau at y môr yn awr, wrth weld toau'r tai wedi eu gwyngalchu. Yn y Glog, rhoddodd rhywun y syniad mai "Glogue" ydyw gwir enw'r lle ym mhenglogue rhyw Sais enwogue,— gwelem gaeau gwrteithiedig i grib y mynydd. Yr oedd y dyffryn yn dechreu culhau'n awr, a'r ffordd haearn yn troelli fel sarff. Ai'r afon yn llai lai, a'r wlad yn harddach, harddach. Troisom i gwm mynyddig, gan adael tai bychain lân o'n holau hyd nes nad oedd yno ond prin le i'r nant, y nant y mae cymaint o frenhinesau'r weirglodd a llygaid y dydd yn edrych arni. Dyma ni ar ben y tir, ac yn fuan iawn cawsom olwg ogoneddus ar hen arglwyddiaeth y Cemaes yn sir Benfro. Yr oedd gwastadedd eang o'n blaenau, hyd lan y môr, a mynydd du llwm yn taflu ei gysgod arno. Nid rhyfedd fod Martin o'r Tyrau wedi blysio y fath wlad, ac wedi codi Trefdraeth ar y lan draw. Ond dyna ni'n colli'n golwg ar sir Benfro wrth droi am y mynydd. Ac wele ddyffryn arall harddach nag o'r blaen, fel pe buasai Ceredigion am ddangos ei rhagoriaeth ar sir Benfro. Ym Moncath yr oeddym ar ben gwlad uchel, a dim yn y golwg yn uwch na ni ond y mynydd du llwm. Oddiyno aem i lawr gydag ochrau glyn dwfn, nes y gwelem ddau o dyran Castell Cilgeran yn gwgu arnom, dros y pentref, oddiar ochr serth afon Teifi.

Yr oeddym wedi blino tipyn erbyn hyn, a da oedd gennym gael ein traed ar orsaf Aberteifi. Aethom i gerbyd clonciog, a ffwrdd a ni dros y bont, ac ar i fyny i'r dre. Ein hunig ofn oedd