Tudalen:Tro i'r De.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen wr tew, ac ychydig o lun ar ei wyneb, fel pe buasai rhywun wedi dal dyn main a'i rowlio mewn eira.

Gofynasom i ba le y cyrchai'r holl bererinion hyn, ac atebwyd ni mai ar hyd y ffordd haearn newydd i Aberteifi. Yn y fan, gwnaethom ninnau ein meddwl i fyny yr aem hyd y ffordd haearn newydd i Aberteifi. A gwell i mi ddweyd hyn yn y fan yma,—ni chawsom erioed fwy o fwyniant nag wrth ddilyn afon Teifi, o Landudoch i fyny i'r mynyddoedd sydd o gwmpas Ystrad Fflur.

Stopiodd y tren yn Llanfalteg, a sylwasom ar lygaid duon a chrwyn iach a Chymraeg tlws y bobl. Yr oeddym yn gadael y wlad wastad, fu gynt yn hollol Seisnig ond sydd yn awr wedi dod yn Gymreig yr ail waith, ac yn tynnu i fyny tua'r bryniau. Erbyn dod i Login,—nis gwn ai dyma ffurf iawn yr enw, y tebyg yw mai nad e, oherwydd dyna'r enw sydd ar orsaf y ffordd haearn, yr oedd golwg henafol a dedwydd iawn ar bopeth. Yr oedd bwthynod to brwyn clyd mewn hafanau cysgodol; prin y maent wedi dechreu codi tai brics i weithwyr ger gorsafoedd y ffordd newydd. Wrth fyned i fyny'r afon, gwelem ambell dŷ llaid, gyda tho llaes hir fel mwdwl o wair. Wedi pasio Llanglydwen daethom hyd ffordd drwy'r garreg i wlad uchel agored. Dyma Rydowen, a mawnogydd a brwyn gleision, a'r terfyn rhwng sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Yn Llanfyrnach yr oedd pobl yn edrych ar y tren fel pe buasent wedi dod ar daith i'w weled, a pheth newydd oedd yn eu hardal hwy. Yr wyf yn cofio fy hun yn mynd i weld y tren yn dod am y tro cyntaf drwy ein hardal ni. Gwelais ef yn dod yn