Tudalen:Tro i'r De.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd cysur, er eu bod yn proffesu dirmyg tuag at y byd darfodedig hwn. Y mae afonig fach yn murmur yn ddedwydd heibio adfeilion yr hen erddi. Daeth gŵr gwynebgoch trwynsur o rywle, a dim golwg ateb cwestiynau arno. Edrychai fel pe buasai'r holl fyd wedi ei wneyd o bwrpas iddo ef gael bod ynddo. Arosasom am ennyd i fwynhau'r olygfa ar y gerddi gerllaw, hyd nes y daeth hen wr heibio, yn arwain helgwn. Pan ofynasom a oedd gan berchennog y lle hyfryd lawer o dir, atebodd,—"Os, ôs, getin mowr o dir." Wrth droi'n ol meddyliem, pe gwyddai'r diwygwyr beth a wneid ag ystadau'r mynachlogydd., na fuasent mor chwerw yn erbyn yr hen fynachod rhadlon groesawai bererinion yn yr hen amser. A chyfrif eu holl wendidau,—ie, pe credem J. A. Froude am danynt, daeth eu gwaeth yn eu lle.

Daethom i'r orsaf yn ol heb benderfynu i ble yr aem. Gwelsom yno focs hirgul wedi ei osod ar ei ben. Yr oedd agen yn agos i'w ben uchaf. ac yr oedd dyn y tu fewn yn gwerthu ticedi. O amgylch y sefydliad hwn yr oedd tyrfa o bobl eithaf tarawiadol, yn aros am i'r agen agor. Yn nesaf un at y twll yr oedd gwraig a het hen ffasiwn, a rubanau duon yn disgyn oddiwrth yr het o bobtu ei gwyneb, gan wneyd iddi edrych fel ysbryd. Yn nesaf ati yr oedd pregethwr mewn côt ucha fawr a het sile a chadach cynnes, a'i wallt fel yr eira, a gofynnodd rhywun digri oedd yno ai efe oedd Ioan Rhagfyr. Yno hefyd yr oedd ffermwr cefngrwm, mewn hosanau bach, a'i fryd ar lawr y byd hwn.

Yr oedd yno ffermwr arall wedi torri gormod ar ei syched, ac yr oedd yn amlwg fod holl allu ei lygaid wedi croes grwydro i'w dafod. Yr oedd yno hefyd