Tudalen:Tro i'r De.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae'n mynd y ffordd honno." Ni ddeallais ystyr y pwyslais nes gweled fod y tren yn rhuthro'n wyllt drwy orsaf St. Clears; a chyn i ni orffen edrych ar ein gilydd mewn syndod dig, yr oeddym yn Hendy Gwyn ar Daf. Disgynasom ar ffrwst, a llusgwyd arch Noa allan. Wedi penderfynu rhoddi cyfraith ar gwmni'r ffordd haearn, a setlo ar dwrnai a bargyfreithiwr, a chael olew ar ein teimladau cynhyrfus o gydymdeimlad hen wraig oedd wedi dod yno o'i hanfodd, drwy gamgymeryd y tren, edrychasom o'n cwmpas am rywun a'n hyfforddiai tua Llanddowror. Heb fod yn nepell cawsom dy gyriedydd. Pan welodd hwn ein clud, dywedodd ddigon am y ffordd i beri i ni roi'r meddwl am fynd yno heibio. Gwnaethom ein meddwl i fyny i fynd ymlaen i'r gorllewin i rywle, gan adael i ffawd benderfynu'r lle. Ond cyn i'r tren nesaf ddod yr oedd gennym amser hir i aros, a dim byd i'w wneyd nac i'w weled. Dim byd, a minnau yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf! Yma unwaith bu un o dai hela brenhinoedd Dyfed: ac yma, fil o flynyddoedd yn ol, gwelwyd dysgedigion o wahanol fannau o Gymru yn ymgyfarfod, ac yn rhoddi cyfreithiau Cymru mewn ysgrifen, dan arweiniad Hywel Dda. Ofer i ni oedd chwilio am yr Hen Dy Gwyn, ond rhoisom dro drwy'r ardal er hynny.

Cyfarfyddasom a llyfrwerthwr deallgar sy'n byw yn y wlad honno, a dywedodd fod hen fynachlog heb fod yn bell. Troisom ar y dde o ffordd Caerfyrddin wrth gapel, a cherddasom drwy gaeau hyfryd gweiriog nes dod i olwg dyffryn caead bychan. Yr oedd tawelwch mwyn yn gorffwys arno, dyma'r lle ddewisai mynachod y Canol Oesoedd, a gwyddent hwy'n dda beth