Tudalen:Tro i'r De.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V. YR HEN DY GWYN

YN yr haf, flwyddyn neu ddwy yn ol, yr oedd dau o honom yn gadael dyffryn Tywi, ac yn meddwl am ardaloedd ereill grwydro drwyddynt. Yr oeddym yn gwmni newydd, ac heb gwbl ddysgu ffyrdd ein gilydd. Yr oedd fy nghydymaith heb ddeall anhebgor cyntaf teithydd,—sef medru bydio gyda hynny o glud fedrir gario ar ysgwydd wan. Felly yr oedd yn cyd—symud â ni gist, ysgafn iawn o'i maint anferth; ac oherwydd yr amrywiaeth mawr oedd ynddi, galwem hi'n arch Noa. Gallai Noa fod wedi ei chael yn arch, a gallesid ei chladdu cyn i'r diluw orffen sychu, o ran dim defnyddioldeb a fu i ni.

Ond i ble yr aem? Mynnai'r naill fynd i Lanfihangel, yr oedd wedi bod yn ddigon segur i ddarllen y dim melodaidd ysgrifennodd Jeremy Taylor, fu'n llechu yno yn amser y Rhyfel Mawr. Mynnwn innau ddilyn afon Cothi, gan led obeithio y medrwn ddarganfod cartrefi rhai o enwogion aml y fro hanesiol honno. Ond torasom y ddadl drwy benderfynu mynd i Landdowror, ac aros yn nhawelwch cartref Gruffydd Jones, o fendigedig goffadwriaeth, dros y Sul. Caem weled yr eglwys lle rhoddid dimeuau'r Cymun at addysg Cymru.

Cymerasom y tren i orsaf Caerfyrddin, gan feddwl disgyn yn St. Clears. Gofynnais i rywun safai gerllaw a oedd y tren yn mynd y ffordd honno. "Ydyw," oedd yr ateb, "y