Tudalen:Tro i'r De.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaeth ond, erbyn heddyw, y mae arddull ryddieithol ac athrylith at ysgrifennu rhyddiaeth mor bwysig a doniau'r bardd. Y wasg, y pulpud, y llwyfan,—onid ar ddawn rhyddiaeth y dibynna eu gallu? Yr wyf yn disgwyl y bydd pwyllgor Eisteddfod Pont y Pridd yn cynnyg coron i brif draethodwr y flwyddyn 1893 yn ogystal ag i'w phrif fardd.

3. Yr oedd Eisteddfod Abertawe'n hollol ddemocrataidd; nid ar bresenoldeb tywysog nag arwr y dibynnai ei llwyddiant, ond ar gariad glowr y Deheudir at gelf a chân. Daeth y Tywysog Henry o Fattenberg yno, heb ei ddisgwyl yr wyf yn meddwl; ac yr oedd yn dda gan bawb ei weled, cafodd groesaw iawn. "Faint yn llai o bobl fuasai yma, pe heb y Tywysog," gofynnais i un o aelodau'r pwyllgor. "Un," oedd yr ateb.

4. Bu Eisteddfod Abertawe yn llwyddiannus ymhob ystyr yng ngwyneb anhawsderau mawrion. Parodd y tymhestloedd enbyd lawer o golled ac anghysur a phryder i'r pwyllgor ac i'r rhai ddaeth i'r babell. Ond ni welais dro anfoneddigaidd ar neb. Rhaid rhoddi llawer o'r clod i ysgrifennydd medrus a diflino'r Eisteddfod. Ond ni fuasai ei waith yntau mor hawdd oni bai am foneddigeiddrwydd a chydymdeimlad y glowr, hyd yn oed pan oedd yn methu cael lle i eistedd ac yn wlyb at ei groen. Clywais droion mai creadur garw ac anhyblyg ydyw glowr y Deheudir; ond, wedi ei weled yn ei Eisteddfod ei hun, bydd gennyf barch iddo tra byddaf byw. Ac er yr enbydrwydd a'r gwlaw, cofiaf am Eisteddfod Abertawe fel moddion addysg a dedwyddwch i filoedd o Gymry.