Tudalen:Tro i'r De.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mon, nid oes gyfieithiad fedr gadw grym a symlrwydd Gwilym Hiraethog; ni fuasai waeth ceisio gwisgo hen wladwr mewn dillad dandi'r boulevard yn lle brethyn cartref. Ac ar gyfer y geiriau Cymraeg, mae'n amlwg, y mae'r oratorio wedi ei chyfansoddi. Yr oedd y dadganiad yn rhoddi tymer addoli i'r dyrfa, blodeued cerdd Cymru i lawer oratorio o'i bath. A chyda thôn gynulleidfaol Gymreig, tôn anwylir ym mhob tref a chwm, y darfyddodd Eisteddfod Genedlaethol 1891.

Y noson honno, tra'r oedd y miloedd yn troi adre, i'r chwarel a'r lofa a'r gweithdy a'r amaethdy, meddyliwn fod rhai nodweddion yn perthyn i Eisteddfod Abertawe y dylid eu gwybod a'u cofio.

1. Cymerid dyddordeb mawr yn y delyn, ac yn y dadganu gyda hi. Ond sylwer mai bechan iawn yw'r wobr am ganu'r hen delyn hudolus,' llai nag am ganu'r piano a'r crwth. Pan gofier fod yn rhaid i'r telynor gario ei delyn gydag ef a fod telyn dda'n costio llawer, pan gofir hefyd y dylid gwneyd ymdrech i ddwyn y delyn yn ol i Gymru—gwelir y dylai'r Eisteddfod ddyblu a threblu'r wobr hollol anheilwng a gynhygir y naill flwyddyn ar ol y llall am ganu'r delyn.

2. Cymerwyd dyddordeb mawr yn y prif draethodwr gwrandawodd y miloedd yn astud ar yr archddiacon Griffiths yn dweyd hanes yr heddgeidwad llafurus enillodd y wobr o hanner canpunt am draethawd ar hanes llenyddiaeth Gymreig rhwng 1650 ac 1850. Yn yr hen amser yr oedd yn bwysig rhoddi gwirionedd ar gân, er mwyn ei gofio a'i gadw, ac yn yr amser hwnnw yr oedd barddoniaeth yn bwysicach na rhydd-