Tudalen:Tro i'r De.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Bydd clustiau'r gorllewin, bydd clustiau'r dwyrain, bydd clustiau'r gogledd, bydd clustiau'r de, bydd HOLL GLUSTIAU'R DDAEAR yno'n gwrando."

Wedi i Eifionnydd ddweyd rhywbeth yng nghanol twrw, wele feirniaid arwrgerdd y goron ar y llwyfan. Watcyn Wyn ddarllennai'r feirniadaeth, yr oedd Dafydd Morgannwg wedi mynd adre, ac nid oedd Elis Wyn o Wyrfai wedi dod or Gogledd. Yr oedd y feirniadaeth yn hir, ond yr oedd y dyrfa'n berfiaith dawel, oherwydd fod yr hin yn braf, a llais Watcyn Wynn yn glir, a'r iaith Gymraeg wrth eu bodd. Pan waeddwyd am wir enw'r buddugwr, bu cyfiro ac edrych o gwmpas fel cynt hyd nes y cododd gwr tal du ei wisg, dan wenu yng nghyffiniau'r llwyfan. Yr oeddwn yn digwydd bod yng nghanol nifer o hen fyfyrwyr Aberystwyth, a mawr oedd eu llawenydd pan welsant mai David Adams, bardd eu coleg, a safai ar ei draed. Daeth Llew Llwyfo a Gwynedd o fysg y beirdd i'w geisio; gofynnodd Clwydfardd fel cynt a oedd heddwch, a chafodd ateb taranllyd fod; ac yna gosododd Cadfan y goron arian ar ben y bardd buddugol. Ychydig feddyliai Oliver Cromwell, wrth basio Abertawe ar ei hynt yn erbyn Poyer a Chymry'r de, y coronid bardd ar lan y môr ymhen llai na dau gant o flynyddoedd am ganu arwrgerdd Gymraeg iddo.

Gyda bod y coroni drosodd, ymadewais i â'r babell, er mwyn cael bod mewn pryd i glywed "Emmanuel" Dr. Parry y nos. Yr oedd y babell yn orlawn, a'r dadganiad yn ardderchog. Un peth oedd yn ol,—dylesid canu'r oratorio yn Gymraeg. Er cystal cyfieithydd ydyw Dewi