Tudalen:Tro i'r De.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

naill ar ol y llall, a chlywid eto ryw furmur gorfoleddus drwy'r dorf. A chlywid "Hen Wlad fy Nhadau" yn ymgodi o gylch meinciau dyrchafedig y cefn, fel cwmwl mynyddoedd.

Ni fum erioed mor falch o Gymru, tybiwn ein bod yn ben gwlad y byd. Ond, pan ddel balchder, fe a ddaw gwarth. Am gyfansoddi miwsig i offerynau tant, dywedodd Signor Randegger nad oedd ond un yn deilwng, a fod "ei gof yntau'n rhy gryf i gael gwobr am beth gwreiddiol." Tybiwn fod y geiriau amlwg oedd ar y llwyfan,— Môr o gân yw Cymru i gyd," —yn gwrido ac yn myned yn llai lai. Medrwn ganu'n ardderchog, ond canu caneuon wedi i ereill eu gwneyd. Er hyn, down ninnau'n gyfansoddwyr; pan fo cenedl yn galw am ddyn, y mae'r dyn hwnnw'n siwr o ddod. Ysbryd cenedl sy'n gwneyd cerddor a bardd. Dacw lowyr y Rhondda ar eu traed. Y mae'r canu'n oerach nag o'r blaen a chollwyd grym "Y Pererinion" trwy gymeryd y geiriau Saesneg. Cor Treherbert oedd yr olaf,—creodd ddistawrwydd a gorfoledd yn y dorf. Yn y distawrwydd hwnnw cododd Hwfa Mon, ac mewn llais fel adlais y canu, dywedodd wrthym am Eisteddfod Chicago yn 1893. Ni fedrid gadael Cymru heb Eisteddfod, rhaid ei chynnal ym Mhont y Pridd, ond anfonir beirdd a chantorion dros y Werydd. Testyn y gader fydd,—

"IESU, o Nasareth."

"Amen" ebe rhywun yn fy ymyl, o eigion ei galon. Ond gwrandewch ar y llais udgorn arian,—