Tudalen:Tro i'r De.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Cymer yn barod. Glowyr oeddynt, ac y mae'n anodd gennyf gredu fod gwell cantorion yn y byd. Yr oedd tân a mynd yn eu dadganiad o ddernyn La Rille yn anesgrifiadwy; a phan ddaethant at ddernyn Dr. Parry—

"Wedi pererindod bywyd,"

dernyn yn llawn adlais o alawon melusaf y Cymry, yr oedd y gynulleidfa bron a thorri allan i orfoleddu. Yr oedd y pum beirniad fel pe wedi anghofio eu hunain, yr oeddynt wedi troi at y cor, gyda gwynebau dan wên boddhad. "Grand, passionate, inspiring," ebai'r estron Signor Randegger am y canu hwn. Hawdd y gallaf gredu fod dagrau yn llygaid Dr. Parry. yr oedd yn awr buddugoliaeth iddo. Yr oedd ugain mil heblaw Signor Randegger, Dr. Parry, David Jenkins, John Thomas, a Mr. Shakespeare wedi eu swyno gan y canu hwn—arhosodd y distawrwydd yn hir wedi i'r cor dewi, ac yna ymdorrodd bloedd canmoliaeth y dorf.

Wedi cael gosteg, cymerodd Major Jones y gader, anerchodd ni fel hoff gyd-wladwyr." a diolch i Unol Daleithiau'r Amerig am anfon Cymro i gynrychioli'r Weriniaeth fawr yn nhref fwyaf Cymru, ac yna eisteddodd, gan edrych yn syn ar y dorf. A chyhoeddodd Gurnos, ar englyn, ei fod yn ddyn a'i ddawn fel naw neu ddeg. Cyn i weithwyr plwm Port Talbot fod yn barod, canodd Llinos Sawel "O peidiwch a dweyd wrth fy nghariad" yn swynol odiaeth. Y corau oedd yn tynnu sylw pawb—yr oedd yn rhaid craffu i weled Morien brysur yn gwibio hyd ael yr esgynlawr, a Chlwydfardd hen a'i bwys ar ei ffon. Daeth dau gor Aber Dâr, y