Tudalen:Tro i'r De.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gallesid clywed eu "Doh" am filldiroedd. Cyn hir dechreuodd y dorf ganu eu hunain, a chawsom ddadganiad o "Hen Wlad fy Nhadau" gan gor o ugain mil.

Ond dacw gor Treorci'n barod; dynion ag ol chwys llafur ar eu gwynebau. Wrth wrando arnynt yr oedd y gynulleidfa'n ddistaw fel y bedd; daeth Mabon i mewn heb yr un floedd i'w groesawu, ac ni fedrai Morien gael neb i ddadlu am y cysylltiad rhwng y Logos a'r Maen Llog. Yr oedd y dyrfa mewn ysbryd nefolaidd erbyn hyn, a chyda fod y cor wedi gorffen, dyna'r ugeinmil eto'n canu Huddersfield," ac Emlyn Jones yn eu harwain.—

"Pa Dduw sy'n maddeu fel Tydi,
Yn rhad ein holl bechodau ni?"

Gelwid ar Emlyn Jones a Mabon i arwain canu tôn arall, ond cyfeiriai Mabon at gor Glan Tawe, a gwaeddai, Mae rhain yn barod, mae'r cor hyn yn barod!" Yr oeddwn i bron a newynu erbyn hyn, ac o babell bwyd y clywais gor Glan Tawe. Pan ddois yn ol, yr oedd y gynulleidfa'n canu "Aberystwyth gydag eneiniad mawr,—

"Beth sydd imi yn y byd,
Ond gorthrymder mawr o hyd."

Wedi'r canu rhoddwyd graddau'r orsedd. Clywais waeddi enw hen Americanwr, mab pedwar ugeinmlwydd ddaeth o'r Amerig i'r Eisteddfod, ond nid oedd yno yn y cynhulliad hyfryd, ar ol ystormydd a dychryn y dyddiau cynt.

Ymdaenodd distawrwydd dros y dyrfa anferth wedyn pan welwyd cor anorchfygol Pont