Tudalen:Tro i'r De.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fowler hefyd, ac ni themtiodd cynghanedd neb i ddweyd ei fod yn "ffaelu" gwneyd dim. Pedr Mostyn oedd yr arweinydd, yr oedd gwawdio mawr ymysg y Shionis ar ei ymdrech i ddweyd "nawr," a bloeddid am Mabon o hyd. Un bore, nid wyf yn cofio pa un, bu ymgom fel hyn, ac y mae'n esiampl o lawer o'i chyfryw. Yr oedd Iago Tegeingl yn sefyll ar y llwyfan a'i bapur englyn yn ei law,—

Shoni draw: "P'in iw e?"
Arweinydd: "Iago Tegeing!."
Shoni: P'in yw e. Mabon?"
Mabon: Iago Te—eg—eingl—y, englynwr."
Shoni: Englyn 'te! Ma swn englyn yn i enw fe.'

Yr oedd yr haul yn sychu'r babell a'r parc, a'r bobl yn llenwi'r eisteddleoedd pan ganai Lucas Williams "Longau Madog;" ond gorfod i mi ymadael, ac erbyn i mi ddod yn ol, yr oedd y gystadleuaeth corau meibion ar ddechre, ger bron ugain mil o feirniaid heblaw'r pum cerddor ar llwyfan.

Cor Brynaman ddechreuodd, cor o weithwyr yn geirio'n ardderchog, ond gyda lleisiau braidd yn gras. Ar eu holau daeth cor Caerfyrddin, cor o bobl a golwg mwy bonheddig arnynt, siopwyr y dre a meibion ffermwyr y gymydogaeth. Yr oedd tân yn eu datganiad o "Ddinistr Gaza," ond collasant lawer o nerth drwy ganu'r "Pererinion" yn Saesneg. Er hynny, yr oeddynt wedi swyno'r gynulleidfa, ac yr oedd lluoedd y cefn wedi meddwi ar fiwsig. Bu'r cor nesaf braidd yn hir yn dod i fyny, a mwynhai'r dyrfa ei hun drwy roi'r cyweirnod, a