Tudalen:Tro i'r De.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sel gweithwyr Seisnig,—pobl y babell,—yn curo eu dwylaw wrth weled arwain y buddugwr i'r llwyfan; ond heb wybod dim am beth yr anrhydeddid ef. Peth arall oedd clywed atebiad Pedrog i wr y wasg a ofynnodd iddo dros gefn y gader ym mha le y ganwyd ef,—"Wn i ddim yn wir, 'dydw i ddim yn cofio, 'dydw i'n cofio dim byd."

Pan gododd Mary Davies i ganu cân yr Eisteddfod, ymddistewodd y dorf eilwaith. Gydag iddi orffen daeth cawod drom o wlaw; ac yr oeddwn i'n prysuro o'r babell pan glywn hwrê hir o groesaw i Ddavid Randell. Yr oeddwn wedi blino gormod i ddod yn ol; ac ni chlywais Lucas Williams yn canu am fedd Llywelyn yng nghyngherdd y nos.

Yr oedd dydd Gwener, diwrnod ola'r Eisteddfod, yn ddiwrnod heulog braf yng nghanol wythnosau o dymhestloedd gwlawog; ac ym mhlith holl ddyddiau'm bywyd, cyfrifaf ef ymysg y dedwyddaf rai. Cofiaf am dylwythau'r Cymry wedi ymgyfarfod mewn heddwch, ar fin bau prydferthaf Cymru, a than wenau'r haul. O'r llywyddion, nid oedd Stanley wedi dod, ac yr oedd Lewis Morris wedi diflannu. Gwnaeth Coke Fowler gadeirydd da; dywedir ei fod wedi bod yn gyd—fuddugol a glowr mewn Eisteddfod flynyddoedd yn ol. Nid yw Mr. Fowler yn Gymro ei hun. ond, oddiar wybodaeth eang o ardaloedd gweithiol y De, y mae wedi talu llawer teyrnged onest inni. Dyma'r unig le yn y byd," meddai, "lle cynhyrfir teimladau tyrfa mor fawr gan bopeth sydd dda, a dim sydd ddrwg. Coleg symudol ydyw'r Eisteddfod, ac ni wn am ddim i'w gymharu a hi ond Campau Olympaidd Groeg." Bu englynu brwd i Mr.