Tudalen:Tro i'r De.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rych tua'r gynulleidfa anferth, a dyfalu pa fardd newydd ddoi i'w mysg o'r miloedd. Y tu ol i'r beirdd, ar wahan, safai Syr Hussey Vivian, Lewis Morris, John Rhys, a Mrs. Rhys. Ar un ochr i'r hanner cylch beirdd eisteddai Dr. Parry; ac ar yr ochr arall yr oedd Mary Davies yn eistedd a'i chwaer yn sefyll wrth gefn ei chader, group prydferth iawn. Er fod Hwfa Mon yn bur hir yn darllen y feirniadaeth, ac er y clywid aml arwydd ystorm, yr oedd rhyw ddistawrwydd rhyfedd wedi syrthio ar y dyrfa. Pan waeddodd Gurnos,—"Os yw yma atebed," aeth y distawrwydd yn ddyfnach byth.

Clywyd "Ydyw" grynedig o rywle, a dyna hi'n ferw gwyllt drwy'r miloedd, pawb yn troi at ei gymydog, yn amheu mai efe oedd y bardd. Dacw Hwfa Mon a Dyfed yn disgyn o'r llwyfan. ac yn mynd i fan ymysg y bobl lle'r oeddis wedi gwneyd cylch o amgylch un gŵr, fel pe buasai wahanglwyfus. Dacw hwynt yn dod yn ol, gan arwain gwr tal, teneu, myfyriol, a'i wallt yn dechreu britho, tua'r gader. Safodd dan y cleddyf, ac yr oedd y beirdd byrion yn cael tipyn o drafferth estyn eu dwylaw at ben gŵr gymaint yn dalach na hwy. Daeth "gwaedd uwch adwaedd" fel taran oddiwrth y dyrfa, yn ateb yr archdderwydd fod heddwch, a daeth heulwen o flaen cawod i chware ar wyneb y bardd wrth ei gyhoeddi'n fardd cadeiriol Eisteddfod 1891, yng ngwyneb haul a llygad goleuni.

Yr oedd y cadeirio'n deilwng ac yn fawreddog, ac yn beth gofia plentyn am dri ugain mlynedd ac ychwaneg. Eto yr oedd yno bethau digrif, er nad yn anwahanol gysylltiedig a'r seremoni. Un peth digrif ddigon oedd gweled