Tudalen:Tro i'r De.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan dawodd o'r diwedd, bu mawr englynu i'r flywydd; ac, wrth gwrs yr oedd "Vivian" yn "vwy vwy" ymhob un o'r bron.

Yr oedd yr ystorm a'r glowr—eu heisteddfod hwy oedd Eisteddfod 1891,—wedi cael llawer o'u ffordd eu hunain hyd yn hyn; ond gwelid heddyw y ceid mwy o dawelwch nag o'r blaen. Cododd Cadfan ei bereidd-lais, wedi englynu i'r llywydd, i adrodd englyn arall i'r bechgyn sy'n ysmygu draw ar gwrr y babell." Yr oedd yr englyn yn fwy chwerw bob llinell, ac erbyn i'r bardd ddod i'r llinell olaf,—"gwehilion pob gwehelyth," yr oedd y catiau wedi eu cadw, a phellder rhwng yr ysmygwr a'r cwmwl mŵg oedd yn prysur ddiflannu uwch ei ben. Ni bu ysmygu mwy. Ond wedi i Ddyfed Lewis ganu can yr Eisteddfod, wele, yr oedd pobl meinciau blaena'r trydydd dosbarth yn sefyll ar eu traed, neu'n eistedd ar gefnau'r meinciau; a chlywid cwynian chwerw o'r tu ol iddynt, cwynfan rhai'n gweled dim. Areithiodd Athan wrthynt, a than ei araeth, llithrai'r dorf yn araf i lawr; a phan eisteddodd yr olaf, rhoddodd Athan y fendith ar ei araeth drwy droi at y llywydd a dweyd, Boneddigion yw pobl fy ngwlad i, syr, bob un." Waeth heb fygwth y glowr, ond mor fuan ag y tybio Shoni yr edrychir arno fel boneddwr try'n foneddwr yn y fan.

Wedi canu penillion, wedi beirniadaethau a chystadleuaeth celf a thraethawd a chan, wedi aml ochenaid gwynt yn nen y babell ac ofni tymhestl arall, daeth dau o'r gloch ac amser cadeirio'r bardd. Erbyn hyn yr oedd y beirdd wedi llenwi'r llwyfan, wedi ymffurfio'n hanner cylch o amgylch Clwydfardd a'r gader, gan ed-