Tudalen:Tro i'r De.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yno hen wr arall, a llawer o newydd—deb naturiol a tharawiadol yn ei weddi, ac yr oedd rhywbeth yn ei ddull a'i bryd wnai i mi ymawyddu am wybod ei hanes. "Yr ydych chwi'n dod o Lanuwchllyn," meddai'm cydymaith, "yr wyf yn cofio Ifan Ffowc yn dod yma ar daith, ac yn holi profiad yr hen frawd yna yn y seiat. Yr oedd wedi tywyllu arno y pryd hwnnw, meddai ef; ac ni fuasech byth yn meddwl, wrth wrando ar ysbryd nawsaidd ei weddi heddyw, mor bell yn nhir sychder yr oedd." Ac adroddodd yr ymgom hon fu rhwng Ifan Ffowc a'r hen wr yn y seiat,—

"A fyddwch chwi'n cael blas ar y moddion?"

"Na fydda ddim,"—yn swta iawn.

"Dim blas ar y seiat?"

"Dim."

"Ydych chwi'n darllen y Beibl?"

Nagw i."

Wel, wel. Waeth i chwi heb seiat na chyfarfod gweddi na Beibl na dim. A wnewch chwi addaw peidio dod i'r gymdeithas mwy?"

"Na wnaf,"—yn wresog iawn.

"Gan eich bod wedi gorffen a'ch Beibl, a wnewch chwi ei werthu i mi?"

"Na wnaf byth!"

Trodd Ifan Ffowc at y bobl, a dywedodd,——"Y mae'r perl gan y brawd hwn, ond y mae rhyw lwch wedi casglu o'i gwmpas." Yna adroddodd ystori am deulu tlawd mewn gwlad y gwyddai ef am dani. Yr oeddynt yn mynd yn dlotach o hyd, gorfod iddynt adael eu ffarm, ac nid oedd ganddynt ond ychydig iawn wrth gefn. Aeth y gŵr i Awstralia, a llawer o ddisgwyl fu ymysg y teulu bach am arian oddiwrtho i ddod