Tudalen:Tro i'r De.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ei ol. Daeth llythyr oddiwrtho o'r diwedd, a blwch bychan i'w ganlyn. Dywedai'r llythyr wrthynt am ddod i wlad llawnder, ond nid oedd dim ond cerrig anolygus yn y blwch. Tybiai'r wraig fod rhywun wedi eu hysbeilio, gan roi cerrig yn lle'r arian yn y blwch. Daeth llythyr wedyn, a blwch arall. Ond nid oedd ynddo ond cerrig a llwch. Erbyn hyn yr oedd arian y wraig wedi darfod; ac nid oedd dim am dani ond mynd ar y plwy. Pan ddaeth y swyddog yno yr oedd y wraig a'r plant yn wylo'n chwerw. Er mwyn dangos iddo mai nid yn gyfiawn yr oeddynt yn dlawd, danghosodd y wraig y ddau flwch i'r swyddog, a dywedodd fel y lladratasai rhywun yr arian fuasai yn eu cludo'n ddifyr i lawnder. Ond yr wyf wedi cadw hyd yn oed y llwch," ebe'r wraig, trwy ei dagrau, wrth son am ei gŵr, "oherwydd ei fod yn dod oddiwrtho ef." Edrychodd y swyddog ar y blychau, a dywedodd wrth y wraig,—" Wraig, cyn i chwi fynd ar y plwy, gadewch i mi eich hysbysu fod gennych ddigon yn y blwch yna i brynnu'r plwy i gyd."

"Yr wyf finnau wedi dod yma," ebe Ifan Ffowc, gan droi at y gŵr oedd yn ameu ei grefydd, i ddweyd wrth y brawd hwn fod perl yn y blwch." "A byth er hynny," ebe'r adroddwr wrthyf fi, "y mae tinc felus yng ngweddi'r hen frawd hwnnw, a sain gobaith yn ei brofiad." Daeth awr odfa'r bore. Dylifai'r bobl o'r wlad oddiamgylch, rhai ar draed a rhai ar feirch, i'r capel fel yn amser Daniel Rowland. Y mae drws yn nhalcen y capel, yn agor yn union i'r pulpud. Un funud y mae'r pregethwr allan, a'r caeau hyfryd yn ymestyn o'i flaen, dan dawel unigrwydd y Sabbath; y funud nesaf y mae wedi