Tudalen:Tro i'r De.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agor y drws, ac yn gweld ugeiniau o wynebau'n syllu'n ddifrif-ddwys arno.

Daeth y nos, ac yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu adre. Yr oeddwn wedi bod ym Mala'r Deheudir ac yn y Cwrt Mawr, wedi ysgwyd llaw â brawd David Charles Davies ac â merch Ebenezer Richard. Yr oeddwn wedi gweld merched, wyth neu naw o honynt, mewn hetiau coryn uchel; ond yr oedd y tai pridd yn fwy rhyfeddod na'r rhain, gan fod hetiau coryn uchel yn fy nghartref hefyd. O feddwl am beth ysgrifennwn, daeth i mi feddyliau sy'n dod weithiau i pregethwr ar nos Sul, rhai pur a dyrchafol, rhai ereill i dywyllu ffydd, a rhai wedi eu geni o'r reaction wedi pryder ac ymdrech y dydd."

Bore drannoeth, cyn ymadael, cofiais am ddywediad fy nghyfaill direidus am y dyn bychan hwnnw yr oedd ei ymddanghosiad i roi pen ar fy mhregeth. Trwy drugaredd, yr oedd fy mhryder gyda'm pregethau wedi peri i mi anghofio popeth am dano drwy gydol y dydd. Dywedais fy ofnau wrth yr hen westy-wraig, ac ebe hi, mewn tôn oedd yn llawnach o gydym- deimlad nag o ddireidi,—

"Fy machgen mawr i, yr oeddych chwi mewn perffaith ddiogelwch oddiwrtho."

Deallais wedi hynny na fyddai'r hen frawd hwnnw byth yn ymddangos odditan y pulpud ond pan gai pregethwr hwyl.

Ddarllennydd mwyn, ar ddiwedd hyn o ysgwrs munudau segur, ni chaf weld dy wyneb siriol. Nis gallaf dy godi ar dy draed, er hynny gobeithiaf fod yn y gyfrol fechan hon ambell beth y gelli ddweyd "Amen," beth bynnag yw dy ddull o ddweyd hynny, wrth fy ngadael.