Tudalen:Tro i'r De.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I. CAER LLEON FAWR

Y DARN cyntaf o farddoniaeth wyf yn gofio, a'r darn cyntaf o lenyddiaeth o fath yn y byd, ydyw darn a glywais pan y siglid fi ar lin rhywun oedd wedi hen flino ar fy swn,—

"Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer,
I briodi merch y Maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi er's diwrnodie."

A phan ddilynwyd oriau chware gan oriau gwaith,—oriau mynd i'r mynydd i fugeilio neu i wneyd mawn,—y ganmoliaeth wyf yn gofio ydyw fy mod gyda'r defaid "cyn codi cwn Caer." A phan ddois adre o Loegr unwaith. wedi ymdrwsio mewn lliwiau tanlli, cadach brith, het oleuwerdd, a menyg melynion,— gwnaeth hen wr i nifer o fechgyn gwlad chwerthin am fy mhen drwy gyfeirio atai fel "fy ngwas i o Gaer;" ac yr oedd y chwerthiniad hwnnw mor boenus imi fel na welodd neb