Tudalen:Tro i'r De.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byth mwy mo'r menyg melynion na r het oleuwerdd na'r cadach brith.

Pan yn mynd yno nid "gyrru, gyrru, gyrru i Gaer," yn ôl dull yr hen amser gynt, a gefais i; ond llithro trwy ganol darnau o furiau a thrwy greigiau, fel pe buaswn mewn breuddwyd a chael fy nhrên yn sefyll mewn gorsaf oedd yr adeg honno'n gydgyfarfyddiad pethau hyllion holl orsafoedd y byd. Ni fedrwn weled dim o honni, er ymholi a mi fy hun ym mhle'r oedd muriau'r ddinas ac ym mhle'r oedd prydferthwch golud dyffryn Maelor. Yr oeddwn yn tybio fod y bobl wedi ymwylltio am adael lle mor hagr, gan mor brysur y dylifent ymaith. Tybiwn hefyd fod Caer yn lle pwysig iawn, wrth weled cynifer yn mynd yno a neb yn mynd i ffwrdd, wrth weled rheiliau ffyrdd haearn o bob cyfeiriad yn darfod yno.

Ond hwyrach mai dychmygu'r oeddwn fod ei hen bwysigrwydd yn perthyn i Gaer o hyd, heb gofio am y porthladd anferth sydd wedi mynd a'i lle fel drws y gorllewin. Bu amser pan oedd Caer yn enwocaf lle o holl drefi godrau'r mynyddoedd,—hyhi oedd prif gaer rhagfur eithaf Ymherodraeth Rhufain, a bu arni guro trwm; ar ei morfa hi y gorchfygwyd Cymry'r gogledd a'r gorllewin ynghyd; hyhi fu'n nodded rhag y Daniaid i'r Saeson; wedi i gyndadau y rhain dorri ei muriau, a'i gadael yn adfail ac yn unig am flynyddoedd ar lan ei hafon; ynddi hi y bu arglwyddi creulawn yn cadw llys, ac yn rhoddi barn anghyfiawn a chosbedigaeth erchyll i lawer Cymro; o honni hi y rheolid gogledd Gymru yn nyddiau'r gorthrwm mawr; oddiar ei muriau hi y bu Siarl yn edrych ar orthrechu ei