Tudalen:Tro i'r De.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyddin, ac ar ddinistrio hen draddodiadau'r oesoedd tywyll trwy rym y Beibl a phowdwr gwn. Hen furiau llwydion, buoch yn nodded i lawer ac yn ddychryn i lawer. Bu llawer un gwan yn bendithio eich cysgod, wedi clywed eich dorau'n cau y tu allan iddo; a bu llawer un cadarn yn eich melldithio wrth eich gweled ar ei lwybr. Heriasoch lawer gallu, llawer gallu da a llawer gallu drwg. Safasoch pan ddylasech syrthio, a syrthiasoch droion pan ddylasech sefyll. A dyma chwi'n gwgu heddyw, pan nad oes gennych frenin i'w amddiffyn na Chromwell i'w herio. Hen furiau cysglyd, nid y saethyddion sydd yn cerdded hyd eich pennau, ond ymbleserwyr; ac nid o'ch mewn chwi y mae unig loddest y byd erbyn hyn. Nid oes o'ch mewn ond siopwyr, a merchetos yn prynu sidanau. Nid oes ofyn am lurig na chledd ar eich heolydd, ni chlywir gweryriad y march rhyfel o fewn eich terfynau, y mae'r Rhufeiniwr wedi troi ei gefn arnoch, y mae eich Normaniaid wedi hen beidio a'u cyffro, y mae eich mynach olaf wedi huno, y mae eich carcharorion yn rhydd.

Wedi blinder a hirbryd teithio y byddis yn meddwl rhywbeth fel hyn. Erbyn cael ymborth ac ymgynhesu, yr oedd y muriau wedi ymddiosg o'u hadgofion, ac ni chynhyrfid fi wrth edrych arnynt mwy na phe buasent hen glawdd mynydd yn adwyon i gyd. Pa mor henafol bynnag fo dinas, a pha mor gyfoethog bynnag o adgofion y bo, ni chanmolir hi os nas gellir cael ynddi lety gweddol gysurus. Os medraf ei gael, gwell gennyf bob amser aros mewn gwesty lle na werthir diodydd meddwol; gwelais westeion, dan gynhyrfiad gwin, yn fwy cyn-