Tudalen:Tro i'r De.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyrfus nag y gweddai i neb fod wrth son am bynciau crefydd a rhinwedd a moes. Ond, yn rhy aml, lle anghysurus ydyw tŷ—dirwest; a threth ormod ar natur ddynol ydyw gofyn i un fyned at dân gwannaidd,—rhyw lygeidyn bach yng nghanol lludw,—ac yfed te o gwpanau na olchwyd dan eu dolennau wedi i wefusau llaweroedd fod arnynt, a chofio ar yr un pryd am danllwyth tân a llian purwyn tŷ tafarn. "Fachgen," ebe hen deithiwr wrthyf mewn tŷ dirwest unwaith, uwchben te gwan, " dyma i ti beth pur rhyfedd,—te go lân mewn tŷ go fudr." Yr wyf yn ddirwestwr selog fy hun, ond dylai ceidwaid tai dirwest gofio na ddylem ni ddirwestwyr ddioddef anghysur oherwydd ein hegwyddor.

Pe buase pob gwesty fel gwesty Westminster, Caer, ceid mwy o ddirwestwyr yn y wlad. Pan ddois iddo, cefais fy hun ar unwaith ymysg Cymry a adwaenwn; yr oedd y te'n dda, a'r ysgwrs yn felus. Dywedwyd wrthyf hanes y colegau a hanes yr ymdrech wneir i ddysgu pob Cymro droi ei gartre'n goleg bychan, dywedwyd am y llyfrau diweddaf gyhoeddwyd, ac adroddodd un brawd doniol hanes ymweliad Lewis Glyn Cothi â Chaer. Mewn amser heddwch daeth Lewis i Gaer, a meddyliodd na roddid hen gyfreithiau amser Owen Glyn Dŵr yn ei erbyn. Priododd weddw o Saesnes, ac ymsefydlodd yn gysurus yn rhywle yng nghysgod y muriau. Ond cyn nos trannoeth, yr oedd rhywun, garasai'r gyfraith neu'r wraig weddw, wedi achwyn ar ŵr dieithr y Saesnes, a Lewis wedi ei adael heb ei eiddo ei hun na'i heiddo hithau ychwaith,