Tudalen:Tro i'r De.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymwersyllu yn erbyn y ddinas, ar y mur hwn bu aml iarll digllawn yn gweled mŵg y difrod ac yn tyngu yr ymddialeddai hyd yr eithaf. Ar y llecyn gwyrdd odditanai bu Anselm yn rhodio, ac yn yr eglwys yn rhywle bu mynach ar ol mynach yn ysgrifennu mewn coflyfr yr hyn a glywai o ddwndwr y byd mawr y tu allan i'r muriau. Yr oedd copi o'r coflyfr hwnnw yn fy llaw, a bum yn troi ei ddalennau dan gofio mai ar y llecyn hwn yr ysgrifennwyd ef.

Huw Flaidd sefydlodd y fonachlog yn y flwyddyn 1093, a rhoddodd fynach yno i ysgrifennu'r gwir am gwrs y byd. Un o'r pethau cyntaf ysgrifennodd y mynach hwnnw oedd i Huw Flaidd farw, ac i'w fab seithmlwydd ddod i'r etifeddiaeth yn ei le. Druan o Huw Flaidd, wedi ei saethu yn ei lygad gan for leidr ar draethell Mon, a gorfod o hono wynebu ar fyd heb gledd na llurig ynddo; a druan o iarll seithmlwydd yn gorfod ymdaro yn y byd tymhestlog hwnnw, cyn boddi ar dueddau Ffrainc yn saith ar hugain oed. Mynach arall, mae'n debyg, ysgrifennodd fod Randl, iarll Caer, wedi gorchfygu brenin, ac iddo yntau gael ei garcharu wedyn gan y brenin hwnnw, a fod y Cymry wedi anrheithio ei iarllaeth pan oedd yng ngharchar, hyd nes y lladdwyd miloedd o honynt yn Nantwich draw. Pan ddois i'r flwyddyn 1164, darllennais ymadrodd ferr greulon,—

MCLXIII. Justicia de obsidibus Walensium.

"Gwneyd cyfiawnder a'r gwystlon Cymreig." Pwy oedd y gwystlon hyn, a beth oedd y cyfiawnder" a wnaed a hwy? Ym Mrut y Tywysogion