Tudalen:Tro i'r De.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoi mwy o bleser i mi na bod yng nghanol fy nghenedl, a chael siarad Cwmrag. Mi adawes Abertawe pan own i'n ddwy ar hugain oed, drigian mlynedd yn ol."

"Chware teg i chwi," ebe Cadwaladr Davies, "am gadw'ch iaith a'ch cariad at eich hen wlad."

"O'ryn ni yn yr America'n cofio am Gymru o flaen pob peth. Ein harwyddair ni yn yr America yw. Fy ng iaith, fy ngwlad, fy nghenedl. Glywoch chwi am y garreg—

Pan oedd yr hen frawd yn siarad fel hyn, gan sefyll yn syth ar y llawr o hyd, daeth rhywun i ddweyd wrthyf fod fy eisiau mewn ystafell arall. A phan ddois yn ol i holi am y garreg, yr oedd yr hen wr wedi diflannu, a'r ffon, a'r het wen.

Eis innau allan, a cherddais ar hyd y City Road a Foregate Street i weld Caer. Adeiladau newyddion yn unig a welwn i ddechre, ond toc daeth tai a'u llofft yn taflu allan dros ran o'r stryd i'r golwg. Ac yn ebrwydd wedyn cefais fy hun wrth fur y ddinas, gwelwn ystryd brysur o dai henafol o'm blaen, ac uwch fy mhen yr oedd hen lwybr y saethyddion yn croesi'r ffordd. Yn hytrach na myned i ganol y prysurdeb, oherwydd diwedd y prydnawn oedd hi, dringais y grisiau sy'n arwain i fyny i'r mur. Yr oedd yn dawel yno, ac awel y prydnawn yn anadlu arnaf dros fryniau Fflint. Odditanai, oddimewn i'r muriau, yr oedd yr eglwys gadeiriol, a llecyn gwyrdd rhyngof a hi; yr ochr arall gwelwn lechweddau a bryniau Cymru, a Moel Famau'n edrych ar Gaer dros eu pennau. Ar y bryniau draw bu llawer byddin Gymreig yn