Tudalen:Tro i'r De.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ceir yr hanes yn llawn. Yr oedd Harri'r Ail wedi arwain byddin i Gymru; ond gwrthwynebwyd ef gan dri o dywysogion galluocai Cymru. Owen Gwynedd, Rhys ab Gruffydd, ac Owen Cyfeiliog. Yr oedd Gwynedd a'r Deheubarth a Phowys a thymhestloedd y nefoedd yn milwrio yn erbyn y brenin, a gorfod iddo gilio'n ol o ddyffryn Ceiriog.

Ac yn gyflawn o ddirfawr lid, y peris dallu y gwystlon a fuasai yng ngharchar gantaw er ys talym o amser cyn no hynny, nid amgen dau fab Owen Gwynedd, Cadwallon a Chynwrig.—a Meredydd mab yr arglwydd Rhys, a'r rhai ereill."

Wedi tynnu llygaid y bechgyn Cymreig fel hyn, daeth y brenin a'i lu i Gaer i babellu am lawer o ddyddiau; gan ddisgwyl, oddiar y muriau hyn, am longau o'r Iwerddon. Ni ddaeth digon o longau at ei bwrpas, a gorfod iddo ddychwelyd i Loegr yn ol. Rhyfel rhwng Cymru a Lloegr. John yn cyrchu tua'r Eryri, heddwch "bythol rhwng Llywelyn Fawr a iarll Caer, melldith y Pab yn gorffwys ar Gymru, anffyddlondeb gwraig Llywelyn, sylfaenu cestyll rhwng Caer a machlud haul, Llywelyn a Simon de Montford yn ymgusanu ym Mhenarlag, hanes ymdrech olaf Cymru, cwymp Llywelyn, ymdaith Edward trwy Gymru—darllennais am hyn oll ar y muriau, ac yr oedd Moel Famau wedi ymguddio o'm golwg yn y gwyll cyn i mi ddod i ddiwedd y llyfr. O'r braidd na ddychmygwn weled un o'r croniclwyr. Cymro neu Sais. "Slesit" neu "ei gyd gorig," yn codi o'u bedd o'r llannerch