Tudalen:Tro i'r De.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

werdd odditanaf, gan eu hawydd i adrodd imi hanes cyffrous dyddiau'r hen Gaer.

Gadewais y muriau, oherwydd yr oeddynt yn dechreu oeri; ymswperais, a chyda i mi gysgu, yr oeddwn ar fur Caer yn fy ol, yn dedwydd wylio llong Edward y Cyntaf yn hwylio dros y môr i Ffrainc. Yr oeddwn wedi cael fy mrecwest bore drannoeth, ac yn eistedd i rannu'r dydd oedd o'm blaen, pan welais yr hen Americanwr yn dod i mewn, yn awyddus am ei frecwest ac am rywun i siarad Cymraeg. Penderfynais wylio ei symudiadau'n fanwl, er bod yn sicr nad un o benaethiaid y Tylwyth Teg oedd. Daeth at Sais tew enfawr oedd yn darllen y Daily Telegraph, a chyfarchodd ef fel hyn." Bore da i chwi, gŵr braf y byd." Ond ni chafodd groeso yno, a daeth ymlaen ataf fi gan ddweyd, mewn llais addfwynach, rhag mai Sais oeddwn innau hefyd,—"Mae hi'n ddwarnod ffein." Bu'n edrych arnaf dros ymyl ei gwpan de wrth fwyta ei frecwest, a minnau'n dweyd wrtho yr ychydig wyddwn am yr hen ddinas yr arhoswn ynddi. Does gennych chwi'r un ddinas gan hyned yn yr Amerig," ebe fi. "Nag ôs," ebai yntau, ni welsoch chwi eriod gynt y mae nhw'n tyfu. Prin y bydda i'n nabod llawer o honyn nhw erbyn cyrhaedda i adre. A 'rw i'n geso nad yw Abertawe ddim fel y gweles i hi ddiwedda." Gorffennodd ei frecwest dan siarad fel hyn, yna gosododd ei hun yn gyfforddus at gael ymgom hir, a gofynnodd.

"Glywoch chwi am y garreg farmor ond Gyda fod enw'r garreg wedi disgyn ar fy nghlustiau, dyma lais arall yn boddi gweddill cwestiwn yr hen wr, llais hen gydymaith wedi