Tudalen:Tro i'r De.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy ngweled ar ddamwain, ac ar adeg yr oedd mewn mawr awydd siarad â mi. Aeth a mi gydag ef, a bu'n darlithio wrthyf ar fy nyledswydd tuag at ryw gymdeithas ddyngarol. Erbyn i mi ddod yn ol, nid oedd yno ond cader wag yr hen Americanwr, a gweddillion ei foreufwyd. Beth oedd y garreg honno, tybed?

Cychwynnais drachefn hyd y City Road, a bum yn gwrando ar hen wr dall yn darllen y Beibl, a'i ben yn ysgwyd fel pen y teganau wneir gan ddwylaw celfydd pobl Japan. Clywais droion na fedr dyn dall ysmygu a mwynhau ei hun wrth wneyd hynny, gan nas gall weld y mwg. Ond gwelais yr hen ddarllennwr hwn yn ceisio taro tân unwaith ar ddiwrnod ystormus, pan nad oedd neb yn barod i wrando ar ei lais. Nis gwn er's faint y mae wedi bod yn darllen yn nghysgod y mur, ni welais neb yn aros i estyn ceiniog iddo, ond hwyrach ei fod wedi anfon saeth o air Duw i galon rhywun calon-ysgafn brysurai heibio iddo.

Cerddais ymlaen, gydag un o adnodau'r hen wr yn fy meddwl; ond yn lle esgyn i'r mur, cerddais ymlaen i'r ystryd brysur honno,—Eastgate Street. Wedi cerdded ennyd, gwelwn fod yr ystryd yn ddwbl—dwy res o siopau bob ochr uwchben eu gilydd. Dyma'r Rows y clywswn gymaint o son am danynt. Yn y rhes isaf o'r siopau gwerthir nwyddau trymion, megis haearn a dodrefn. Yn y rhes uchaf y mae siopau lle gwerthir nwyddau cain,—gwisgoedd a darluniau a llyfrau a phethau tlysion o bob math. Bum yn cerdded hyd lawr pren y Row, —lle oer braf yn yr haf, a lle clyd yn y gaeaf— ysbio ar y ffenestri, a thybiwn na welais