Tudalen:Tro i'r De.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffenestri erioed wedi eu trefnu mor ddestlus. Y mae rhai'n meddwl nad oes eisiau dim mewn siopwr llwyddiannus ond medru gwenu a rhwbio ei ddwylaw a dioddef anwyd a datod cylymau. Rhaid iddo wybod mwy na hyn, rhaid fod ganddo chwaeth i drefnu ei ffenestr, ac adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, fel y gwypo beth i'w gynnyg i bawb, ac fel na chollo ei amynedd mewn amgylchiadau na fedrasai'r hen Job ei hun gadw ei dymer ynddynt. A fuost ti, ddarllennydd yn nwylaw un y teimlet ei fod yn feistr arnat, ac heb allu gwrthryfela? Bum i, a hynny droion. Bum dan lygad athraw, heb feiddio gwingo; dilynai ei drem oer wibiadau fy llygaid i bob man, nes y blinais geisio dianc, ac y rhoddais fy hun yn ei law, gan adael iddo ddarllen fy hanes i gyd. Bum yn llaw meddyg, teimlwn ei fod yn fy nal ar fin dibyn, yn meddu gallu i'm codi i fyny neu i'n gollwng lawr. A bum yn llaw siopwr hefyd, erlidiai fi hyd lwybr fy meddwl fy hun, darganfyddai pa liw oedd yn demtasiwn i mi, agorai bethau o flaen fy llygaid fel y gwelais bysgotwr yn ffitio coch-a- bonddu neu bluen iar fynydd at liw'r dŵr. Peth melus yw cael rhodio'n rhydd, heb fod dan awdurdod neb.

Ond wff wrth rodio'n rhydd dyma fi wedi dod i wrth-darawiad a rhywun pan yn troi'r gornel i Bridge Street. Mewn profedigaeth fel hyn, y peth goreu bob amser ydyw cymeryd yn ganiataol mai ar y dyn arall mae'r bai, a chroch- floeddio y mynnwch iawn ganddo am eich niweidio. Ni fedrais erioed gofio hynny'n ddigon buan. Ac heblaw hynny ni fum erioed yn hoff o ddweyd gair brwnt wrth neb. Fe ddywedir