Tudalen:Tro i'r De.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gall cacynen geifr golio bob dydd, ond y bydd y wenynen marw wedi colli ei hunig golyn. Yr wyf fi'n debyg i'r wenynen yn hyn o beth,—y mae gair chwerw'n costio llawer mwy o boen i mi nag i'r hwn y dywedaf ef wrtho. Pe buasai hynny'n wir am y dyn bach tew byrbwyll gyfarfyddais mor sydyn ar gornel ystryd Caer, buasai wedi marw gan ofid cyn cyrraedd pen y Row. Bobol anwyl, dyna lle'r oedd blagardio! Dyn, na welodd mohona i erioed o'r blaen, yn dweyd yn fanwl holl neillduolion fy nghymeriad, ac yn tynnu cymhariaethau rhyngof â bodau dychmygol nad gweddus eu henwi, ac yn fy ngalw ar eu henwau fel pe buaswn yn un o honynt! Ni chlywais neb erioed yn pentyrru cymaint o eiriau o'r natur hwnnw, a pharodd yr ymadroddion lawer o boen i mi ar hyd y dydd. Digon yw dweyd y byddaf yn ochelgar iawn wrth neshau at gornel yn awr; themtir fi'n fynych i waeddi fy mod yn dod, fel y Groegwr roddai rybudd i'r fforddolyn cyn agor ei ddôr.

Wedi i'r gwr gwyllt fy ngadael,—a diolch am ei le, yr oedd Bridge Street o fy mlaen. Gwelwn ynddi siopau hen ffasiwn prydferth, a thalcennau pren iddynt; ac wrth gerdded i lawr i gyfeiriad yr afon, gwelais aml i dy fu'n dyst o'r Rhyfel Mawr, ac aml ystryd na fu newid ar ei ffurf er pan fyddai'r iarll a'r esgob a'r brenin yn rhannu "ceiniogau" 'r ddinas rhyngddynt. O ddwndwr yr ystryd lawn dois i ddwndwr yr afon, sydd fel pe'n cofleidio Caer yn ei mynwes, yr hen Ddyfrdwy ogoneddus, y tybid gynt fod rhyw ddwyfoldeb yn perthyn iddi. Y mae golwg ryfedd ar y bont, yr unig bont a gysylltai