Tudalen:Tro i'r De.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gaer â Chymru yn y dyddiau gynt. Saif uwchben hen ryd, hwyrach mai i wylio'r rhyd yn un peth yr adeiladwyd Caer gyntaf. Pont bren oedd i ddechreu, o waith arglwyddes Mersia," merch Alffred Fawr, ond yn 1279 taflodd yr afon ei hiau bren oddiar ei gwarr. Yna codwyd pont garreg gul, a chodid treth ar bob nwydd ddeuai drosti i'r ddinas. Bum yn sefyll arni'n hir, yn edrych ar y llwybr oedd fel pe'n crogi fel cadwen wrth ochr y mur, ac ar yr ewyn ddawnsiai ar y dwfr rhedegog, ac ar yr hen felinau lle'r oedd yn rhaid i bawb falu ei fara gynt, ac ar y llyn na cha neb bysgota ynddo hyd y dydd hwn ond y brenin ei hun.

Cerddais yn ol i ganol y ddinas; ond, yn lle troi adre hyd Eastgate Street, troais ar y chwith i Watergate Street. Ac anodd iawn oedd mynd o hon gyda'i siopau hen gywreinion a'i hen dai coed, gydag arwyddeiriau'r Puritaniaid eto'n aros arnynt. Yr oedd rhywbeth yn tynnu fy sylw o hyd,—dyma le y bu Swift yn aros am ei long, ac yn ddrwg ei natur: dyma hen blas teulu Stanley, yn wyw a thlawd fel hen wr bonheddig wedi torri: dyma lle y gwerthid llian yr Iwerddon,—ond erbyn heddyw ni fedd Caer ond ei hynafiaeth i ymfalchio ynddo, y mae'r farchnad yn Lerpwl. Cerddais yn fuan, o'r diwedd, i fyny i'r mur; a chyflymais ar hyd hwnnw, gan gip-edrych ar dyrau a'r dyfnder odditanodd, hyd nes y cyrhaeddais dŵr uchel a elwir ar enw Siarl y Cyntaf. O'i gysgod daeth dynes aml-eiriog, yr hon a fynnai i mi brynnu darluniau, a llyfryn yn dweyd hanes Siarl. Yn y llyfr, meddai hi. cawn hanes y brenin yn edrych o ben y tŵr