ar ei fyddin yn cael ei gorchfygu ar Rowton Moor draw, ym mis Medi, 1645. Prynnais y llyfr, nid oeddwn yn meddwl y gallwn beidio wedi i'r ddynes ddweyd beth oedd ynddo, ond teflais ef dros y mur wedi mynd o'i golwg. Ac heb gyfarfod neb wedyn, cyrhaeddais fy ngwesty, yn flin ac yn newynog.
Pan oeddwn yn bwyta, pwy ddaeth i'r ystafell, yn union fel y daeth y diwrnod cynt, ond yr hen Americanwr,—ffon, a het wellt wen gantal cyrliog. Dywedais wrtho am y dyn roddodd dafod drwg i mi, a gofynnais a gyfarfyddodd ei ddyn felly erioed.
"Odw," meddai, "wi wedi cyfarfod llawer o ddynnon fel hynni, ond wi'n cerdded yn rhy ara 'nawr i ddod i wrth-darawiad a neb.
Glywsoch chwi son am y garreg farmor ddu,— "Naddo erioed." ebe finnau'n awchus, "hynny ydyw, ni chlywais ond ei henw wrth i chwi ofyn yr un cwestiwn o'r blaen."
Welsoch chwi mo'r golofn godwyd er cof am gyhoeddi anibyniaeth yr America?"
"Naddo, fum i erioed yn yr America."
"Wel, pan welwch chwi'r golofn honno, edrychwch chwi ar y bedwaredd res o gerrig, yr ochr sy'n edrych ar y Capitol, a chwi welwch yn y lle mwyaf amlwg garreg farmor du. A beth feddyliech chwi ydyw'r geiriau sydd ar y garreg honno?"
"Nis gwn i ddim."