Gwirwyd y dudalen hon
Danghosodd i mi wawl-arlun o'r gofadail. un hardd iawn, ac arni yr oedd y geiriau,—
Erected
by
DANIEL L. JONES.
ER
COFFADWRIAETH
AM
ROGER WILLIAMS,
Founder of Rhode Island.
Born in Wales,
1599,
Died in Rhode Island,
1683.
"Gwn," meddwn, wedi syllu'n hir ar ddarlun y gofadail, "pwy oedd Roger Williams; ond pwy yw y Daniel L. Jones yma? A ydych chwi yn ei adnabod "
"Odw," meddai, a'i lygaid yn dawnsio o ddireidi, "odw, rwy'n i adnabod e'n dda; y fi yw e."
Nid oeddwn wedi clywed gair am yr hen Gymro bychan hwn erioed o'r blaen, nac wedi gweled ei enw tan y funud honno, ond nis gallaswn lai na gwasgu ei law yn gynnes,—un ymorfoleddai yn y rhan gymerodd y Cymry yn ffurfiad gweriniaeth fawr byd y gorllewin,