Tudalen:Tro i'r De.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un fu'n cadw ac yn gwylio mynwent lle'r hunai llawer o'i genedl, a'r Werydd rhyngddynt a'r fynwent lle'r hun eu mam a'u tad, am hanner cant o flynyddoedd. Ychydig o deuluoedd sydd yng Nghymru nad oes ganddynt rywun anwyl yn yr Amerig, yn fyw neu yn ei fedd. Nid am fedd Roger Williams yn unig yr oedd yr hen wr ffyddlon wedi gofalu, gofalodd am flynyddoedd am y "Welsh Burial Ground," gydag adnodau dieithr i'r Americanwyr ar ei gerrig beddau.

Ni ryfeddwn na fu'n gofalu am laswellt bedd un berthynai i minnau, ymysg y llu sydd yno'n gorwedd ymhell o'u gwlad. Yr wyf finnau'n hoff iawn o grwydro, ond fy ngweddi olaf fydd am fedd yng Nghymru. Pe cynhygiai Rhagluniaeth i mi athrylith Goronwy Owen, ni fynnwn hi os byddai raid i mi gymeryd bedd fel ei fedd ef. Onid oes swn huno tawel yn niwedd hanes llawer hen batriarch,—"ac efe a gasglwyd at ei dadau"?

Cyn i mi a'r hen wr orffen ymgomio am Gymry'r Amerig yr oedd y prydnawn wedi darfod, a nos Sadwrn yn dod. Byddaf yn hoffi clywed enw nos Sadwrn, y mae swn noswylio ynddo. A hyfryd ydyw meddwl, pan y daw, fod corff blin y llafurwr yn dadflino a'r meddwl pryderus llwythog yn gorffwys, cyn i dawelwch adfywiol y Sabboth ddisgyn ar y byd. A'r nos Sadwrn honno bum innau'n gorffwys wrth wrando beth oedd Cymru pan adawodd fy hen gyfaill hi, a beth oedd yr Amerig drigain mlynedd yn ol. Dydd gwaith ydyw hanes yr Amerig i gyd, ond dydd Sul tragwyddol ydyw hanes Caer erbyn hyn o'i gymharu á hanes New York neu Chicago.