Tudalen:Tro i'r De.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan ddaeth y bore, ymholasom am gapel, a chychwynasom i chwilio am gapel yr Anibynwyr y dywedwyd wrthym am dano. Cerddasom drwy amryw ystrydoedd cefn, lle'r oedd gweision ystablau'n ymolchi o flaen eu drysau, a throisom i ystryd dipyn tawelach. Cyn hir daethom o flaen adeilad yn meddu rhyw debygolrwydd i gapel. Ni wyddai'r plant troednoeth carpiog chwareuent o'i flaen beth oedd; tybiai'r mwyafrif mai Iddewon oedd yno. Ond toc dyna nodau hen emyn nas gallem ei gamgymeryd, ac aethom i mewn. Ac yno yr oedd henafgwyr a siopwyr a morwynion; yr oedd yno blant lawer hefyd, ac yr oeddynt yn medru canu Cymraeg.

Yr oedd y capel bychan hwnnw'n lle ardderchog i orffwys. Drwy'r ffenestr oedd o'n blaenau, uwch ben y pulpud, gwelem goeden griafol yn ymysgwyd yn araf, fel y gwelais wyr a gwragedd yn ysgwyd wrth ganu hen donau. Cofiem hefyd mor aml y clywyd llais Arthur Jones a Gwilym Hiraethog yn y capel hwn. Ac yn ei bulpud yr oedd Michael D. Jones, yn pregethu efengyl purdeb, ac yn rhoi gwisg o frethyn cartref Cymreig am y patriarchiaid. Gwyddwn am wr y Bala fel gwladgarwr ac fel arweinydd gwyr ieuainc Cymru, ond nid oeddwn wedi ei glywed yn pregethu erioed o'r blaen,— yn pregethu'r Beibl yn ei burdeb gyda grym ac arddeliad mawr. Yn y capel bychan hwnnw y treuliais y Sabbath drwyddo, ac nid anghofiaf ef. Yr oedd seiat ar ol y nos, bu'r hen Americanwr yn dweyd hanes y garreg, ac yn gobeithio y byddai i'r Cymry ran yng ngwneyd Teyrnas Dduw fel ag y bu iddynt ran yng