Tudalen:Tro i'r De.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ngwneyd gweriniaeth y Gorllewin; croesawodd rhyw hen wr eneth oedd newydd briodi, mewn geiriau ddywedid yn eu hamser, megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig; a siaradodd amryw frodyr calon-gynnes am Gymru ac efengyl Crist.

Nid o'm bodd y trown o Gaer fore Llun. Yr oeddwn wedi meddwl am grwydro drwy Faldwyn a Brycheiniog, i weled y bobl gartref, ac yr wyf am ddweyd y gwir am danynt, mor bell ag y gwelais i ef, heb roddi dim ato ac heb dynnu dim oddiwrtho.