Tudalen:Tro i'r De.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. LLANIDLOES.

Llanidloes, lle i anadlu
Awyr a gwynt Cymru gu."
—CEIRIOG.

YM mis Gorffennaf diweddaf yr oeddwn yn teithio i fyny dyffryn Hafren, gan ddyfalu pa fath le allai Llanidloes fod. Ceisiwn ddarlunio ei hymddanghosiad i mi fy hun, yng nghanol mynyddoedd lle nad yw'r Hafren ond aber; ceisiwn ddychmygu a welwn blant Siartwyr 1839, ac a oeddynt yn cofio am frwdfrydedd rhyfedd eu tadau; ceisiwn ddyfalu pa argraff adawai ei phobl arnaf. Treiais weled hanes y dref yn glir trwy droion canrifoedd. gan edrych allan ar y dyffrynnoedd ffrwythlawn y cyflymem drwyddynt; a thybiwn fod gwawr Gorffennaf, gwawr cyfoeth, darganfyddiad, a meddwl, ar hanes Llanidloes. Ond rhag i'm meddyliau droi'n freuddwydion ofer, penderfynais beidio ffurfio syniad am Lanidloes nes y gwelwn hi, a throais i edrych ar fy nghyddeithwyr.

Gwelais eu bod oll yn edrych, gyda gwên ddireidus, ar un o honom. Geneth oedd honno, a gwallt fflamgoch. Yr oedd yn eneth brydferth ac fel pob un fedd wallt o liw blodau'r eithin, yr oedd wedi ymwisgo mewn lliwiau