Tudalen:Tro i'r De.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tanbaid, a'r lliwiau'n toddi i'w gilydd yn dlysaf peth welais erioed. Ond nid ei gwallt o liw'r goelcerth, ac nid prydferthwch lliwiau ei gwisg, oedd yn gwneyd i'w chyd-deithwyr wenu. Yr oedd yn ceisio rhoi edeu mewn nodwydd, ac yr oedd ysgytiadau'r tren yn ei wneyd yn beth amhosibl iddi daro pen yr edeu i'r crai. Treiai dro ar ol tro, ac yr oedd pawb yn ei gwylio, ac yn cael rhyw hanner mwynhad wrth ei gweled mor agos i lwyddo, ac yn methu. Yr oedd yno hogyn ysgol, ac yr oedd yn mwynhau yr olygfa ymron gymaint a phe buasai ef ei hun wedi rhoi rhyw sylwedd tryloew yn llygad y nodwydd; yr oedd yno hen wraig yn edrych dros ei spectol, ac wedi gollwng ei phapur newydd; yr oedd yno hen lanc, heb weled ymgais i roddi edeu mewn nodwydd yn y tren o'r blaen, ac yn gwylio bysedd yr eneth bengoch mor ddyfal dros ei hysgwydd a phe buasai'n parotoi i drwsio'r twll oedd yn ei hosan ef; yr oedd yno hen fachgen mawr tew, a llygaid fel gwydr, a'r rheini'n llawn o chwerthin, tebyg i lewyrch haul ar risial.

Ond toc, rhoddodd y tren ysgytiad mwy nag arfer, a thaflwyd braich yr eneth heibio i'r nodwydd oedd yn ddal yn ei llaw arall, nes y plannodd yr edeu yn llygad yr hen lanc. Gyda fod yr ysgytiad drosodd, yr oeddym ym Moat Lane Junction, a disgynnodd yr hen lanc a minnau, oherwydd yr oedd yn rhaid i ni newid tren. Yr oedd yn rhwbio ei lygad dolurus, a mynnai mai o fwriad y plannodd yr eneth yr edeu yn ei lygad. A chan enwi un y dywedir yn gyffredin fod yn rhaid cael dwy goch i'w wneyd, sicrhaodd fi fod lliw yr eneth honno yn sicrwydd mai tanio wnai ar y rhybudd lleiaf. Dan