Tudalen:Tro i'r De.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrando ar achau merched, aethom trwy ddolydd meillionog, trwy Landinam a'i blodau, a thoc gwelsom Lanidloes a chopâu mynyddoedd lawer. Moel a llwm oedd yr olwg gyntaf ar y dref or orsaf, gwelwn ystryd lydan yn dechreu draw, ac yn rhedeg i lawr i gyfeiriad yr afon. Yr oeddwn wedi codi'n foreu, wedi gorfod cipio rhyw damaid cyn rhedeg at y tren, ac heb ymdrwsio mor ofalus ag y dymunwn wneyd. I fanylu, nid oeddwn wedi eillio, ac yr oedd y cadach wisgwn am fy ngwddf wedi gweld dyddiau gwell.

Troais i'r gwesty cyntaf gawn, cefais yno foreubryd blasus, ac yna eis i'r heol i brynnu rhyw fan betheuach, gan gofio, wrth i mi eu gweled hwy, y byddai pobl Llanidloes yn fy ngweled innau. Y peth cyntaf a'm tarawodd oedd Seisnigrwydd masnachwyr y lle.

Yn y gwesty, ni fedrai'r forwyn Gymraeg mwy na barnwr neu eneth ysgol. A phan droais i mewn i siop haearn, gofynnodd siopwr braf melynwallt imi yn Saesneg beth a gai werthu i mi. Ond pan ofynnis yn Gymraeg iddo am rasel, siaradodd Gymraeg mor rigil a minnau. Cerddais i lawr yr heol, gan synnu beth allasai'r adeilad coesau pren sydd ar ganol yr ystryd fod, a throais am y gornel i siop dilledydd, a gofynnais i ferch ieuanc weddus ei phryd am gadach fel y cadach wisgwn am fy ngwddf, a chanodd rhywun direidus am y tro. gan ddychmygu deuawd fel hyn,—