Tudalen:Tro i'r De.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tan feddwl a sylwi, cyrhaeddais y Bont Ferr, pont sy'n taflu dros yr Hafren lle mae erchwynau carreg gwely'r afon yn agos iawn at eu gilydd. Ac wrth edrych i fyny ar hyd yr Hafren tua'r mynyddoedd draw, gwelwn gwm yn llawn o olygfeydd y medraswn dreulio blynyddoedd i'w mwynhau. Gwyddwn fod hanes i'r cymoedd o gwmpas, gwyddwn fod Edward Morgan y Dyffryn wedi ei eni yn un o honynt, gwyddwn fod y Siartwyr wedi bod yn dadleu eu hegwyddorion chwyldroadol yn y tai o'm cwmpas. Yr oedd arnaf awydd holi, ac arhosais nes y doi rhywun hamddenol dros y bont, gan fwynhau dwndwr yr afon wrth iddi furmur yn ddedwydd tra'n troi ffatri ar ol ffatri, a thra'n torri'n ewyn o lawenydd ar graig ar ol craig. Erbyn y cyrhaedda y trefydd nesaf, bydd ei dwfr wedi colli ei burdeb, bydd hithau wedi colli llawenydd y mynyddoedd, ac yn llithro'n araf ac yn brudd ar ei chrwydriadau maith.

Ond dyma ddyn yn dod, ffatrwr bach prysur, a'i ffedog wedi ei throi i un ochr. Medrais wneyd iddo aros, a dechreuais ei holi. Ond ni wyddai ddim am Lanidloes, newydd ddod yno o Drefclawdd yr oedd, ac aeth ymaith dan wenu'n hapus. Ar ei ol daeth gŵr tal teneu, gan gerdded yn hamddenol, ac ysbio arnaf oddi tan ei aeliau. Daeth ataf, a rhoddodd ei bwys ar y bont yn f'ymyl. Dyma fo, meddwn wrthaf fy hun, yrwan am holi. "Na, welwch chwi," meddai. fum i ddim yn Llanidloes er ys deugain mlynedd, o Ruddlan y dois ar daith i weled Cymru, a dyma fi yn Llanidloes eto, ar ol amser mor hir. Yr wyf newydd weled fy mrawd, sy'n byw yn y cwm draw, a phrin yr adnabyddem