Tudalen:Tro i'r De.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ein gilydd wedi cymaint o flynyddoedd." Dywedodd mai Anibynnwr oedd wrth ei grefydd, a thafarnwr wrth ei alwedigaeth. Gwahoddodd fi i'w dŷ pan awn i Ruddlan, a gwelais ef yn syllu ar dai Llanidloes nes y cuddiodd y neuadd coesau pren ef o'm golwg. Fel y gwelwn yn y man, peth pwysig iawn i deithiwr ydyw ei fod yn gofalu dweyd y gwir.

Cyn i neb arall groesi'r Bont Ferr, troais o honi i lawr gyda'r afon ar hyd heol Pen y Graig. O hon rhed llawer o ystrydoedd bychain culion, gyda thai newyddion glân, a'r tai i gyd ar graig lâs olchwyd yn lân gan y gwlaw. Meddyliwn am dref Basel o hyd, y dref sydd ar lan y Rhein, yr oedd dwndwr yr afon a glanweithdra'r tai a phryd y bobl yn gwneyd i mi feddwl er fy ngwaethaf fy mod yn y ddinas honno, dinas y bu ei gweithwyr yn noddwyr i ryddid a'r Beibl pan oedd tywysogion y byd yn elynion iddynt. Ni welwn fawr o bobl Llanidloes ond hen bobl a phlant,—hen wyr a hen wragedd mewn amlder dyddiau, a bechgyn a genethod yn chware yn ei heolydd hi. Gwelais lawer gwyneb tarawiadol yn estyn allan o ddrysau'r tai,—llygaid duon, trwyn enfawr, a gwallt gwyn. Saesneg siaredid â'r plant, ond yr oedd pawb yn berffaith barod i siarad Cymraeg.

O dipyn i beth dois at yr eglwys, yr oeddwn wedi gweled ei thŵr anorffenedig o bell, yn ymddyrchafu o fysg coed a llwyni. Y mae'r eglwys a'r fynwent mewn lle prydferth iawn, ar fryncyn sy'n codi o lan yr afon; ac nid yw'r fynwent hon yn ddistaw fel mynwentydd ereill. eithr y mae dwndwr tragwyddol y dwfr i'w