Tudalen:Tro i'r De.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glywed o honi. Y mae'r fynwent yn llawn iawn, bu Llanidloes yn lle pwysig, pan oedd wyth gant o beiriannau nyddu'n mynd ar unwaith, ac y mae'r beddau wedi eu palmantu â cherrig au harddu â blodau. Y mae'r cerrig beddau'n dweyd hanes y dref, dengys yr enwau fod Saeson o rannau gweithfaol Lloegr wedi ymgymysgu a thrigolion y mynyddoedd i drin gwlan ac i'w weu'n wlanen. Woosnam, Hamer, Kay, Mills, Ashton, Bowen, Maypole, Marshall, Roderick,—dyna gymysgfa digon rhyfedd. un bedd gwelais enw gwladaidd iawn, enw a'm hadgofiai am lawer hen ffermdy clyd.—"William Shôn."

Wedi tro o gylch y fynwent, un o'r llecynnau prydferthaf trwy Faldwyn i gyd, troais i edrych ar yr eglwys. Y mae'n anodd i unrhyw adeilad edrych yn fawreddog a hardd yng Nghymru, nis gall yr un adeiladydd ymgystadlu a'r Hwn sylfaenodd y mynyddoedd; y mae mynyddoedd Cymru'n gwneyd yr eglwys uchaf fel corach, a'r castell hynaf fel creadur doe. Ond

"Aros wnant hwy byth yn ieuanc,
Er eu bod mor hen a'r byd;
Natur sydd yn cadw arnynt
Swyn ei chreadigol wrid:
Engyl ar eu teithiau safant,
I ryfeddu gymaint rodd
Duw o hono ef ei hunan
Yn eu mawredd, wrth eu bodd."[1]


  1. Iolo Caernarfon. Oriau yng Ngwlad Hud a Lledrith." 10.