Tudalen:Tro i'r De.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Oes, medde nhw, mi glywes gamol y ciwrad lawer gwaith, ac mae'r person yn eitha dyn, am wn i. Ond Saesneg gewch chi gennyn nhw bob gair; welwch chwi'r eglwys acw, does neb yn torri'r Cymraeg ynddi Sul na gwyl na gwaith. Mae nhw'n deyd mai un o Rydychen ydi'r ciwrad, a does neb ddaw oddyno'n medru siarad Cymraeg."

"Howld on, 'r hen bererin, un o Rydychen ydyw gweinidog capel y Methodistiaid hefyd." Ie, a bachgen neis iawn ydi o, a bachgen neis anghyffredin oedd yma o'i flaen o. Ond am gapel Saesneg y Methodistiaid 'rydech chi'n meddwl, ac am y capel Cymraeg rydw inne'n meddwl.

Ma yma gapelydd braf yn Llanidloes, dene chi gapel crand iawn gen y Sentars, ond yn capel ni ydi'r nobla. Ma yma bregethwrs da iawn hefyd, ond y mae Cynhafal Jones yn un o'r pregethwrs mwya, mae o yn i handwyo nhw i gyd. Glywsoch chi am dano fo'n,—"

"Good morning, a fine day."

Yr oeddwn wedi gweled perchennog y llais main merchedaidd ddywedodd y geiriau hyn yn troi o'n cwmpas er ys meityn. Dyn byr di-farf oedd, a'i awydd am siarad â ni'n gryf, i swildod yn gryfach na hynny. Daeth atom o'r diwedd, ac yr oedd fel pe wedi dychrynnu wrth glywed ei lais ei hun. Yr oedd het lwyd feddal am ei ben, a'i chantel wedi ei droi i fyny un ochr; gwisgai drowsus o ribs gwyn newydd ei olchi, a chôt o frethyn llwyd-goch. Yr oedd golwg di-daro arno, er ei swildod; safai'n syth, ond gan edrych i lawr, gydag un law ym mhoced ei drowsus a'r llall ym mhoced ei gôt. Ni fuasai neb byth yn dweyd oddiwrth ei