Tudalen:Tro i'r De.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddanghosiad beth oedd ei oed na'i grefydd na'i gyflwr bydol. A phe buasai raid penderfynu oddiwrth ei wyneb a'i lais, ni fuasai neb yn medru dweyd prun ai dyn ai dynes oedd.

"Good afternoon," ebe finne. "Can you speak Welsh?"

"Medra'n dda," meddai'n awchus. Mi fedra i whlia Saesneg, ond mae'n well gen i Gymraeg. Iaith fy mam ydi'r Gymraeg, ond dysgu'r llall ddaru mi. 'Rwan mae'r ysgolion yn gyrru'r Gymraeg o'r wlad, 'does dim ond ambell hen nyddwr fel y fi am siarad Cymraeg. Oeddech chwi'ch dau yn siarad am y Siartwyr?"

"Nag oeddym. A wyddoch chwi rywbeth am danynt?"

"Gwn; 'rown i yn i canol nhw."

"Yn eu canol, 'does dim posib eich bod yn ychwaneg na deugain oed; 'doeddech chwi ddim. wedi eich geni yn 1839."

"Oeddwn, 'roeddwn i'n naw mlwydd oed yn y flwyddyn honno, ac yn i canol nhw."

A thra'r oedd gyrroedd o ddefaid a throliau gwlan a mwnwyr yn pasio dros y bont, dechreuodd yr hen wr hwn, oherwydd yr oedd yn drigain oed,—adrodd yr helynt rhyfedd hwnnw. Darluniodd fel y canodd "corn Rhyddid" i alw'r brodyr i ymgynnull ar y Bont Hir; a'r pregethu tanllyd wrth dalcen y bont. Ar ganol y cyfarfod dyna waedd fod y cwnstabliaid wedi dal rhai o'r Siartwyr a'u bod yn eu cadw'n garcharorion yng ngwesty Trewythen Arms. Cododd swn digofus oddiwrth y dorf, a dyna bawb fel un gŵr yn troi o'r bont ac yn rhedeg i ganol y dre "i dorri ffenestri." Ac yr oeddwn