Tudalen:Tro i'r De.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

inne yn i canol nhw." Torrwyd ffenestri'r gwesty'n gandryll, rhuthrwyd i'r ty, maluriwyd y dodrefn, a diangfa gyfyng gafodd y cwnstabliaid am eu bywyd."Mi gweles nhw'n dengid drw'r ffenest. A'r Siartwyr fu'n rheoli'r dre yma am ddyddie. 'Roedd trefen braf ar bethe'r adeg honno. Ac yr oeddwn inne yn i canol nhw.'

Ond, cyn hir deallodd Lord John Russell fod perygl yng Nghymru; a gwelwyd milwyr yn cyrchu i Lanidloes o bob cyfeiriad,-o Drefaldwyn dan lywyddiaeth Charles Wynne, yr aelod dros y Sir, o'r Amwythig a Chaer a'r Iwerddon. Dylifasant i'r dref,"ac yr oeddwn inne yn i canol nhw. Mi ddengodd y Siartwyr i'r wlad i ymguddio, a'r cavaldri ar i hole nhw i'w ffeindo nhw maes, a mi gweles nhw'n dwad i'r dre rhwng y cyffyle. Down i ddim yn i canol nhw pryd hynny."

Nid oedd y dyn mawr na'r dyn bach yn gwybod beth oedd Siartaeth, a cheisiais esbonio iddynt. Dywedais am swyn egwyddorion rhyfedd y Chwyldroad Ffrengig,—rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch. Dywedais am y deffroad gwleidyddol y gwelodd Siartwyr Llanidloes ei fore.

"Braint oedd cael byw y dyddiau hynny.
A nefoedd bod yn ieuanc,"

ebai bardd oedd yn Geidwadwr selog cyn diwedd ei oes. Dywedais mai nid torri ffenestri a lluchio cerrig at gwnstabliaid oedd unig amcan hen wroniaid Llanidloes, ond croesawu bore rhyddid oedd iddynt hwy fel bore cyntaf